Galwodd yr Ombwdsmon, Nick Bennett, am arweinyddiaeth mwy cadarn i “wyrdroi’r duedd” o gwynion a dywedodd fod angen deddfwriaeth newydd gan y Cynulliad ar gyfer ei swyddfa er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dangosodd adroddiad blynyddol 2015/16 yr Ombwdsmon mai o’r 798 cwyn a wnaed i gyrff iechyd, yn erbyn byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaeth y GIG y gwnaed 661 ohonynt. Mae cwynion yn erbyn cyrff y GIG yng Nghymru wedi cynyddu fwy na 50% dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Y llynedd, fe benododd yr Ombwdsmon swyddogion gwella i bump o Fyrddau Iechyd Cymru – Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda, gan roi mwy o bwyslais ar arfer gorau a datblygiad diwylliannol y gorfforaeth.

Yn gyffredinol, ac am yr ail waith mewn 10 mlynedd, cafwyd gostyngiad yn nifer y cwynion a dderbyniwyd am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus – cwymp o 4% o’i gymharu â 2014/15.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Mae’r duedd gynyddol mewn cwynion i’r GIG yn bryder gwirioneddol ac mae angen arweinyddiaeth i rymuso staff rheng flaen fel eu bod yn gallu ymateb i anghenion cleifion ar draws Cymru.

“O ystyried bod y boblogaeth yn mynd yn hŷn a bod y cyni ariannol yn parhau, mae’r gofynion sydd ar y GIG yn fwy nag erioed ond mae’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ni i wella gwasanaethau.

“Rydw i’n obeithiol y bydd y gwaith sydd ar y gweill gan gnewyllyn newydd swyddogion gwella fy swyddfa yn gwneud gwahaniaeth, ond rydw i’n credu bod angen deddfwriaeth newydd i helpu dod â chylchoedd o wasanaethu gwael i ben.

Byddai Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus newydd yn rhoi pwerau i fy swyddfa i ddatblygu arferion o ansawdd uchel ar gyfer delio â chwynion a chasglu data, nid yn unig ar draws gyrff y GIG, ond ym mhob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Byddai hyn yn arwain at weld problemau yn gynharach ac yn caniatáu i gyrff gyhoeddus weithredu yn gynt.

“Craffu yw un o ‘r prif ffactorau sy’n sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac rydw i’n awyddus i sicrhau bod gan gleifion Cymru lais i godi safonau.”