Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Mrs A (cuddiwyd ei henw) fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn ei rôl fel yr awdurdod addysg lleol (AALl), wedi methu â mynd ati’n briodol i ystyried, asesu a chanfod anghenion addysgol arbennig ei mab, B.

Mewn adroddiad er budd y cyhoedd, canfu’r Ombwdsmon y gallai’r AALl fod wedi bod yn orawyddus i ostwng nifer y Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a’i fod yn rhoi’r cyfrifoldeb ar ysgolion yn ei ardal i ddilyn opsiynau eraill yn hytrach nag asesiad statudol.

Yn achos mab Mrs A, rhoddodd yr AALl fath o ddarpariaeth sy’n seiliedig ar yr ysgol, sef ESAP (Extended Action Plus Agreement). Nid yw gweithdrefnau’r AALl na’i bolisïau cyhoeddedig yn cyfeirio at ESAPau nac yn eu cydnabod, ac ni ddylid bod wedi’u defnyddio yn hytrach nag asesiad statudol pan oedd yn eglur fod yr ESAP yn methu.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod B, sydd ag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu ac sydd â nam ar ei olwg, wedi wynebu cyfnod hirfaith heb gael yr addysg briodol oherwydd methiannau’r AALl.

Mae B wedi cael asesiad statudol ers hynny, ar ôl i’r gŵyn gael ei gwneud.

Cytunodd y cyngor i ddarparu ymddiheuriad i Mrs A, ac iawndal am y methiannau a ganfuwyd yn y modd yr oedd yn ymdrin â chwynion. Ymhlith yr argymhellion eraill: cytunodd hefyd i gynnal adolygiad annibynnol o achos B, adolygu ei bolisi cyhoeddedig presennol ar Anghenion Addysgol Arbennig, ac archwilio unrhyw gytundebau ESAP eraill sydd mewn lle.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Rydw i’n eithriadol o bryderus na chafodd y disgybl hwn mo’r cymorth yr oedd ei angen arno ac am y gofid a achoswyd i deulu’r plentyn.

“Dydy’r dull tameidiog o ddelio ag addysg y plentyn hwn ddim yn ddigon da, ac rydw i’n credu yn yr achos hwn ei fod wedi cael cam gan y system a oedd yn ei lle.

“Rwy’n falch fod y cyngor wedi cytuno i fy argymhellion a’i fod yn ailedrych a oes disgyblion eraill sydd â chytundebau ESAP ac a ddylai gael asesiadau statudol ac ystyried a yw’r cymorth addysgol priodol yn cael ei ddarparu.

“Bydd fy swyddfa yn dilyn yr argymhellion yn y misoedd nesaf i sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â nhw.”