Mae’r Ombwdsmon, Nick Bennett, wedi galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno i’w swyddfa ei gynigion a’i gynllun gweithredu ar gyfer adolygu achosion plant eraill sy’n derbyn gofal, yn wyneb pryderon y gallai’r methiannau sydd wedi’u canfod fod yn systemig, gan effeithio ar blant eraill sy’n derbyn gofal ac sydd yng ngofal y Cyngor.

Cwynodd Mr N, (dienw), oedd yn ddyflwydd oed pan gafodd ef a’i frawd eu lleoli gyda gofalwyr maeth, wrth yr Ombwdsmon ar ôl i’w leoliad ddod i ben yn 2014.

Dywedodd y canlynol:

* Nid oedd y Cyngor wedi rheoli ei gynilion yn briodol ac yn unol â’i bolisi.
* Roedd rhywfaint o’i gynilion wedi cael ei ddefnyddio, heb ymgynghori ag ef, i dalu am dripiau y dylai fod wedi derbyn lwfans arbennig ar eu cyfer.
* Roedd y cynilion a dderbyniodd ym mis Ionawr 2015 yn sylweddol is nag y dylent fod yn ei farn ef.

Canfu ymchwiliad bod gwaith monitro’r Cyngor yn “ysbeidiol ac annigonol” ac yn cyfateb i gamweinyddu. Hefyd methodd gadw cofnodion digonol na chadw ei lyfr cynilion ar ddiwedd ei leoliad maethu, ac roedd hyn yn golygu ei bod yn aneglur pam fod cynilion Mr N mor isel ag yr oeddent.

Roedd y Cyngor yn cydnabod bod ei ymateb, pan wnaeth Mr N ei gŵyn wreiddiol iddo, wedi ymddangos yn “ddiystyriol neu anghydymdeimladol” o bosib, ac ymddiheurodd gan ddweud nad dyma oedd y bwriad.
Dywedodd yr Ombwdsmon bod yr achos yn codi materion pwysig yn gysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal a’u cynilion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’i fod wedi rhannu’r adroddiad gyda Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd nad oedd wedi beirniadu’r Gofalwyr Maeth yn ei adroddiad o gwbl, ac mai ymchwiliad i gamau gweithredu’r Cyngor yn unig oedd hwn.

Gwnaeth yr Ombwdsmon gyfres o argymhellion, gan gynnwys y dylai’r Cyngor wneud taliad o £3,310 i Mr N. Hyd yma, nid yw’r Cyngor wedi gwneud hynny.
Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Gobeithio y bydd y materion y mae fy ymchwiliad wedi’u codi’n arwain at newidiadau cadarnhaol ac at ddatblygu polisi cenedlaethol pellach ar gynilion tymor hir plant sy’n derbyn gofal, gan adlewyrchu’r angen am i gynghorau sicrhau canlyniadau y byddai pob rhiant da eu heisiau ar gyfer eu plant eu hunain.

“Mae’r achwynydd yn haeddu derbyn y taliad yma ac rydw i’n hynod siomedig bod y Cyngor wedi gwrthod gwneud hynny hyd yma.
“Os bydd yn parhau i wrthod, byddaf yn cael fy ngorfodi i gyflwyno adroddiad arbennig pellach, rhywbeth yr wyf ond wedi gorfod ei wneud unwaith erioed yn ystod fy nghyfnod fel Ombwdsmon.”