Dywedodd yr Ombwdsmon, Nick Bennett, fod y patrwm parhaus hwn yn achosi pryder ac fe alwodd ar y Cynulliad i fwrw ymlaen â deddfwriaeth newydd mewn perthynas â’r Ombwdsmon a fydd yn helpu i wella safonau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Yn adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2016/17, nodwyd bod yr Ombwdsmon wedi cael 2,056 o gwynion newydd am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a 236 yn rhagor o gwynion cod ymddygiad yn erbyn cynghorwyr llywodraeth leol. Mae cyfanswm yr ymholiadau a chwynion wedi cynyddu 75% dros y chwe blynedd diwethaf.

Er bod cynnydd yn y baich gwaith yn heriol, cafwyd 16 y cant o gynnydd yn nifer yr achwynwyr a gafodd ganlyniad cadarnhaol yn achos eu cwyn, un ai drwy i’r corff gytuno ar gamau i unioni pethau, neu’r gŵyn yn cael ei chadarnhau a chamau gweithredu yn cael eu cytuno arnynt.

Erbyn hyn mae 38% o faich gwaith yr Ombwdsmon yn gwynion am iechyd, ac mae’r Ombwdsmon wedi aseinio Swyddogion Gwella i bump o Fyrddau Iechyd Cymru – Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda. Ym mis Mehefin, cynhaliodd ei swyddfa seminar i staff yn y sector iechyd i drafod sut i rannu gwersi ac arferion gorau wrth ddelio â chwynion.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Mae’r cynnydd cyson mewn cwynion am gyrff y GIG yn achosi pryder. Un ffactor o bwys yw nifer y cwynion a dderbyniwyd am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd fy Swyddog Gwella yn parhau i weithio gyda’r bwrdd iechyd i sicrhau y parheir i ddysgu gwersi.

“Mae tystiolaeth fod diwylliant o ofn a gweld bai yn dal i fodoli mewn rhai cyrff yn y sector cyhoeddus ac roedd fy adroddiad thematig Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Feunyddiol: Dysgu Gwersi o Ddelio’n Wael â Chwynion yn tynnu sylw at feysydd pwysig i’w gwella. Ond, ar ôl y seminar ar gwynion iechyd a gynhaliwyd gan fy swyddfa’n ddiweddar, rwy’n falch o weld bod staff byrddau iechyd yn awyddus i gryfhau’r trefniadau llywodraethu, hyfforddiant a chasglu data er mwyn gwella’r ffordd o ddelio â chwynion.

“Byddwn yn annog y Cynulliad i fwrw ymlaen â’r bil Ombwdsmon drafft newydd yn ystod tymor yr hydref. Os caiff ei phasio, rwy’n ffyddiog y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi modd i ganfod gwasanaeth gwael yn haws ac i ddelio â’r mater yn fwy effeithlon.