Ymchwiliad gan yr Ombwdsmon: Gofal Annigonol i Glaf Terfynol Wael

Mae gofal a gafodd claf a oedd yn derfynol wael mewn ysbyty yng ngogledd Cymru wedi cael ei ddisgrifio fel ” gwbl annigonol” gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Daeth cwyn i’r Ombwdsmon gan wraig weddw “Mr P” (enw wedi’i guddio) ynglŷn â’r gofal a gafodd yn wythnosau olaf ei fywyd yn Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych.

Canfu’r Ombwdsmon y canlynol:

 Nid oedd cwrs y driniaeth glinigol a gynigiwyd i Mr P ar yr adeg honno yn ei salwch yn rhesymol (oherwydd ei chyfradd ymateb araf) o’i gymharu â thriniaeth y gellid bod wedi’i chynnig iddo ac a allai fod wedi ymestyn disgwyliad ei oes hyd yn oed am amser byr.

 Anfonwyd Mr P adref heb drefniadau priodol yn eu lle.

 Ni chyfathrebwyd yn effeithiol â Mr a Mrs P ynglŷ â’i ryddhau o’r ysbyty, ac mae hyn yn codi pryderon difrifol ynglŷ â meddyginiaeth reoledig.

 Bu’n rhaid i Mrs P aros am fwy o amser nag a oedd yn rhesymol i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵn.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r ymchwiliad hwn wedi canfod rhestr o fethiannau yr wyf yn hynod bryderus amdanynt. Mae’n gwbl eglur fod agweddau ar ofal y claf hwn wedi bod yn druenus o annigonol.

“Mae’r rhain yn codi materion eang y mae angen mynd i’r afael â nhw, gan gynnwys prinder gwelyau i gleifion sy’n derfynol wael, bod ar frys ac yn fyrbwyll wrth ryddhau cleifion sy’n derfynol wael, dogfennau o ansawdd gwael a materion diagnostig.

“Rwyf wedi rhoi nifer o argymhellion y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cytuno i’w gweithredu, a bydd fy swyddfa yn dilyn y mater er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lwyr â’r argymhellion.”