Cyflog
£30,024 - £32,598 y flwyddyn

Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar ac yn gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac ar bapur)? Oes gennych chi sgiliau da o ran gwasanaeth cwsmeriaid neu ddelio â chwynion?

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i recriwtio unigolyn Graddedig i rôl Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd ac eraill a all gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.

Yn y swydd, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiadau cychwynnol o gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon.  Byddwch yn defnyddio’r system rheoli achosion mewnol, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau syml, fel cwynion sydd yn amlwg y tu allan i’n hawdurdodaeth.

I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau gwych ar y ffôn ac o ran gwasanaeth cwsmeriaid, gallu delio â chwynion yn ogystal â gallu defnyddio TG a gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).

Mae hon yn swydd hybrid, lle mae angen rhywfaint o bresenoldeb bob wythnos yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n gweithio i’r Ombwdsmon yn ddiduedd a’u bod yn cael eu hystyried yn ddiduedd.  Felly, ni chaniateir i staff sy’n gweithio i’r Ombwdsmon gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol ac mae’n rhaid iddynt osgoi gwneud sylwadau gwleidyddol yn gyhoeddus, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol.  Cyn eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus lofnodi datganiad yn cadarnhau eu bod yn cytuno i lynu at ein polisi o ran cyfryngau cymdeithasol ac adolygu eu hôl troed cyfryngau cymdeithasol ar draws pob llwyfan a ddefnyddir ganddynt.

I wneud cais

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais drwy anfon ebost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw: Hanner dydd, 5 Awst 2026.  Cofiwch fod gennym yr hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. 

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.

Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Disgrifiad Swydd

Pecyn Recriwtio

Ffurflen Gais

Arolwg Monitro Cydraddoldeb