Ymgynghoriad Agored ar Ganllawiau Arfaethedig yn ymwneud ag “Egwyddorion Gweinyddu Da” a “Rheoli Cofnodion yn Dda”.

Yn cau hanner nos 1 Tachwedd 2021

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i Ganllawiau’r Ombwdsmon ar arfer Gweinydd Da.  Mae Adran 34 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019 yn grymuso OGCC i gyhoeddi canllawiau o’r fath.  Rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n dod o fewn gylch gwaith OGCC ystyried canllawiau OGCC wrth gyflawni eu swyddogaethau. Wrth ymchwilio i gwynion, gall OGCC ystyried i ba raddau y mae corff cyhoeddus wedi cydymffurfio â Chanllawiau OGCC ar arfer Gweinyddu Da wrth wneud penderfyniadau.

Y Canllawiau cyfredol yw’r Egwyddorion Gweinyddiaeth Dda a Rheoli Cofnodion yn Dda.  Bwriadwn rannu’r Canllawiau yn 2 gyhoeddiad ar wahân; yr “Egwyddorion Gweinyddu Da” a ”Rheoli Cofnodion yn Dda”.  Trwy rannu’r Canllawiau, ein nod yw darparu egwyddorion cyffredinol o ran arfer gweinyddu da a rhoi cyngor penodol ar wahân ar arfer gweinyddu da mewn perthynas â rheoli cofnodion i gyrff cyhoeddus ac achwynwyr.

Rydym yn gofyn am eich barn ar y ddau ganllaw arfaethedig. Gellir cyrchu’r dogfennau ymgynghori a manylion ynghylch sut i ymateb yn y dolenni isod.

Byddwn yn cynnal meddygfa ar-lein i drafod y diwygiadau hyn â’n rhanddeiliaid Ddydd Gwener 15 Hydref 2021 am 2pm.  I gofrestru, anfonwch e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru