
Ceisiadau Cynllunio
Cyflwyniad
Y Cyngor yw’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ei ardal (mewn rhai ardaloedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n gwneud hyn). Mae awdurdodau cynllunio’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a gweithredu ar amrywiol faterion cynllunio. Rhaid iddynt weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn polisi’r awdurdod ei hun. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn yn erbyn awdurdod cynllunio.
Yr hyn gallwn ei wneud
Byddwn yn gallu edrych i weld a oedd unrhyw beth o’i le gyda’r ffordd yr aeth y Cyngor ati i benderfynu cais ar gyfer datblygiad cyfagos. Gall hyn gynnwys y methiant i:
- roi gwybod i chi am gais a allai effeithio arnoch, fel nad oeddech yn gallu gwrthwynebu;
- hysbysu cyrff eraill y dylai fod wedi rhoi gwybod iddynt;
- roi gwybod i chi am y cynlluniau diwygiedig;
- roi’r rhesymau dros ei benderfyniad i gymeradwyo cais;
- ystyried eich gwrthwynebiadau (nid yw hyn yr un fath ag anghytuno gyda’ch gwrthwynebiadau);
- roi sylw i ystyriaethau cynllunio perthnasol;
- roi cyngor cywir cyn i chi wneud cais, a gallwch ddangos bod hyn wedi achosi problemau sylweddol ichi;
- gael system yn ei lle i sicrhau bod y cyngor a roddodd wedi’i gofnodi’n briodol;
- egluro’n iawn bod ei gyngor yn anffurfiol ac nad oedd yn ymrwymo’r Cyngor i wneud penderfyniad neilltuol yn y dyfodol;
- ddilyn y gweithdrefnau priodol na thalu sylw i’r ystyriaethau cynllunio perthnasol.
Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud
Ni fyddwn yn gallu edrych ar:
- penderfyniad cynllunio a wnaed yn briodol ac nid oes unrhyw dystiolaeth o fai gweinyddol.
- cwynion lle mae neu lle oedd hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd hyn ond yn berthnasol lle oedd oedi cyn penderfynu cais neu lle gwrthodwyd cais.
- cwyn ynghylch cais hyd nes y gwneir penderfyniad a gallwn ystyried yr effaith arnoch.
Rydym yn annhebygol o edrych ar eich cwyn os yw’n ymwneud â materion preifat rhyngoch chi a’ch cymydog – e.e. anghydfod ynghylch terfynau.
Materion i gadw mewn cof
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddwn yn gallu mynd yn groes i’r penderfyniad na dymchwel y datblygiad hyd yn oed os yw’n cael effaith arnoch, ond mi fydd yn ystyried ffyrdd eraill o leihau unrhyw effaith arnoch.
Gwybodaeth bellach
Gall Cymorth Cynllunio Cymru roi gwybodaeth ddefnyddiol am faterion cynllunio. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 029 2062 5000 neu yn www.planningaidwales.org.uk
Mae gwybodaeth am gynllunio hefyd ar gael yn https://www.planningportal.co.uk/cymru
Mae’n bosibl y bydd gwefan y Cyngor ei hun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am rai materion cynllunio.
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru