Cyflogwr Chwarae Teg

Rydyn ni’n falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol fod rhaid i ni barhau i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein sefydliad. Isod, trafodwn ni asesiad a gynhaliwyd gan Chwarae Teg ym mis Chwefror 2020 ynglŷn â’n perfformiad o ran cydraddoldeb rhywiol.

 Cefndir

Yn gyson, gwelwn ni fwy o lawer o fenywod nag o ddynion ymhlith ein hymgeiswyr am swyddi – yn 2019/20, roedd 75% o’n gweithlu yn fenywod. Mae gennym ni hefyd ystod o bolisïau a chyfleoedd hyfforddi i ddileu rhwystrau rhag cyflogaeth neu ddatblygu gyrfaoedd staff benywaidd.

Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2019 roedd canolrif ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn 21%, ac roedd cyfartaledd ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn 23%. Mewn cymhariaeth, 14.2% oedd canolrif y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2019.

Rydyn ni’n ymwybodol y gall canlyniadau recriwtio unigol wneud gwahaniaethau sy’n ymddangos yn fawr yn enwedig mewn sefydliad cymharol fach. Fodd bynnag, cawson ni ein hysgogi gan faint ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau i geisio barn arbenigol allanol ar ein perfformiad o ran cydraddoldeb rhywiol. O ganlyniad, penderfynom ni i ymgysylltu â Chwarae Teg a cheisio achrediad fel cyflogwr Chwarae Teg.

Elusen Gymraeg yw Chwarae Teg sy’n arwain ar gydraddoldeb rhywiol, gan gynnwys yn y gweithle. Mae ei gynllun Cyflogwr Chwarae Teg yn meincnodi sefydliadau gan ddefnyddio pedair lefel i fesur eu cydraddoldeb rhywiol: efydd, arian, aur a phlatinwm.

Canfyddiadau

Cynhaliodd Chwarae Teg eu hasesiad ym mis Chwefror 2020. Roedd yr asesiad yn cynnwys ystyried ein polisïau a gweithdrefnau, yn ogystal ag arolwg o farn ein staff.

Ymatebodd 83% i’r arolwg, sef “lefel ymgysylltu hynod gadarnhaol” yn ôl Chwarae Teg. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bob un a gymerodd ran am eu sylwadau.

Roedd yr asesiad yn cynnwys 10 maes o’n gwaith. Dyma ganlyniadau’r arolwg:

Maes asesu Ein sgôr Sgôr gyfartalog y sector cyhoeddus Lefel cyflogwr Chwarae Teg
Polisïau Cyflogaeth
Amrywiaeth Busnes 82% 74% Arian
Ymarferion Gweithio Hyblyg 79% 77% Arian
Cyfathrebu Mewnol 81% 74% Arian
Cysylltiadau Gweithio 86% 78% Aur
Dysgu a Datblygu 86% 78% Aur
Recriwtio a Dethol 80% 72% Arian
Rheoli Perfformiad 81% 71% Aur
Diwylliant y Sefydliad 83% 75% Aur
Gwobrwyo a Chydnabod 76% 72% Arian

 

Yn seiliedig ar y canlyniad, rydyn ni’n falch o gyflawni Gwobr lefel arian fel Cyflogwr Chwarae Teg. Dim ond llond llaw o sefydliad yng Nghymru sydd wedi cyflawni’r lefel hon felly rydyn ni, wrth reswm, yn falch ohoni.

Wrth wobrwyo’r lefel hon i ni, dywedodd Chwarae Teg:

“Mae hyn yn llwyddiant mawr ac yn dangos ymrwymiad y busnes i wneud gwahaniaeth i recriwtio, cadw a datblygu menywod sy’n gweithio, ac mae’n cyfrannu at ymdrechion ehangach i gau’r blwch cyflog rhwng y rhywiau, ynghyd â sicrhau bod economi Cymru yn elwa o gydraddoldeb rhywiol.”

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiad, paratôdd Chwarae Teg Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a chynllun gweithredu awgrymedig. Penderfynwyd y byddai’r Strategaeth yn canolbwyntio ar wella’r meysydd allweddol canlynol:

  • Gweithio Hyblyg
  • Recriwtio a Dethol ar y cyd ag Amrywiaeth Busnes
  • Gwobrwyo a Chydnabod

Byddwn ni nawr yn gweithio â Chwarae Teg i weithredu’r cynllun gweithredu yn ystod 2020/21.

Roedden ni hefyd yn falch o weld bod canolrif ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau wedi gostwng i 11%, a bod cyfartaledd ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau wedi gostwng i 19% yn yr un cyfnod. Er bod y newidiadau hyn yn rhagflaenu cynllun gweithredu Chwarae Teg, rydyn ni’n hyderus y byddwn ni yn cynnal y tueddiadau cadarnhaol hyn os ydyn ni yn rhoi mwy o sylw i’r meysydd a nodir yn y cynllun.