1. Cyflwyniad

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio’r ffordd y byddwn ni (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan.

Mae’r rhan hon o’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio:

 

2.  Pa wybodaeth a gasglwn a pham

Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, rydym yn casglu rhywfaint o wybodaeth yn awtomatig.  Mae hyn yn ein helpu i gynnal a monitro perfformiad ein gwefan ac yn ein helpu i wella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan.

Cwcis

Mae ein gwefan, fel y mwyafrif, yn rhoi ffeiliau bach, a elwir yn gwcis, ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar. Mae cwcis yn helpu i wella eich profiad o’n gwefan.  Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i:

  • Gofio pwy ydych chi sy’n helpu pan fyddwch chi’n llenwi ffurflenni.
  • Cofio eich gosodiadau fel nad oes rhaid i chi barhau i’w newid. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n newid maint neu liw testun.
  • Gweld sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan fel y gallwn ei wella.

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth safonol o log y rhyngrwyd a manylion am sut y mae ymwelwyr â’n gwefan yn ei defnyddio.   Ni chaiff ein cwcis eu defnyddio i’ch adnabod yn bersonol, eu pwrpas yw helpu i wneud i’n gwefan weithio yn well i chi.  Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis, a sut i newid eich dewisiadau cwcis a/neu ddileu cwcis yn ein Polisi Cwcis.

Browsealoud

Gallwch ddewis defnyddio Browsealoud i glywed darlleniad o gynnwys ein gwefan drwy bwyso ar y bar offer ReachDeck ar frig ein gwefan.  Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i symleiddio ac addasu’r wefan a chyfieithu’r testun i wahanol ieithoedd.  Pan fyddwch yn pwyso ar y botwm Browsealoud mae hyn yn cyflwyno cais i gyfieithu’r cynnwys.  Caiff y cynnwys ei anfon yn awtomatig ac yn ddiogel at Texthelp Ltd i’w drawsnewid yn sain.  Nid yw Browsealoud yn casglu nac yn storio unrhyw wybodaeth sy’n gallu eich adnabod amdanoch.

 

3.  Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth

Bydd angen eich cydsyniad arnom i gasglu rhywfaint o wybodaeth, megis pan fyddwch yn cytuno i ddefnyddio cwcis dewisol.  Fodd bynnag, pan fydd y broses yn angenrheidiol ar gyfer diogelwch ac uniondeb ein gwefan, rydym yn dibynnu ar ein buddiannau cyfreithlon.

Pan fyddwch yn cyflwyno cwyn drwy ein gwefan, mae’r prosesu yn angenrheidiol i ni gyflawn tasg er budd y cyhoedd.

 

4.  Diogelu eich gwybodaeth

Rydym yn cymryd camau i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.  Gallwch ddarllen am y camau a gymerwn yn adran Gwybodaeth Gyffredinol ein hysbysiad preifatrwydd.

 

5.  Pa mor hir yr ydym yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw’r wybodaeth dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom a bydd hynny’n dibynnu ar ba ddefnydd a wneir ohoni. Rydym wedi cyhoeddi ein hamserlen cadw cofnodion ar ein gwefan.  Os hoffech i ni anfon copi atoch, rhowch wybod i ni.

 

6.  Eich hawliau diogelu data

Gan ein bod yn prosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol. Mae rhesymau dilys pam y gallwn wrthod eich gwrthwynebiad, sy’n dibynnu ar pam yr ydym yn ei brosesu.  Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn ein prif hysbysiad preifatrwydd.  Mae hyn hefyd yn dweud mwy wrthych am eich hawliau diogelu data.

Os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth, mae hawl gennych gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).