Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio’r ffordd yr ydym (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn gwneud cais am wybodaeth i ni, neu pan fyddwch yn arfer eich hawliau gwybodaeth.  Er enghraifft, os ydych am wrthwynebu’r ffordd yr ydym wedi ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol.  Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych:

1. Pwy yr ydym ni

2. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth

3. Pa wybodaeth a gadwn amdanoch a pham

4. Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth

5. Pa mor hir yr ydym yn cadw eich gwybodaeth

6. Eich hawliau

 

1. Pwy yr ydym ni

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ystyried cwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Er enghraifft, gallwch gwyno eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael trwy ryw fethiant ar ran y corff sy’n darparu’r gwasanaeth.  Gallwn ystyried cwynion am y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Gallwn hefyd edrych ar gwynion bod cynghorwyr (gan gynnwys cynghorwyr cymuned) wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod lleol.

 

2. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth

Mae angen i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaeth gyfreithiol fel corff cyhoeddus o dan y ddeddfwriaeth cais am wybodaeth.  Er enghraifft, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a’r Ddeddf Diogelu Data 2018.

 

3. Pa wybodaeth a gadwn amdanoch a pham

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym yn creu cofnod electronig ar ein cronfa ddata i’n helpu i reoli ac ymateb i’ch cais neu ymholiad.  Rydym yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch:

  • Eich enw a manylion cyswllt fel y gallwn ymateb i’ch cais neu ymholiad.
  • Manylion eich cais neu ymholiad. Darllenwch fwy am sut yr ydym yn ystyried ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth neu ymholiadau o dan y Ddeddf Diogelu Data.
  • Os yw eich cais yn ymwneud â chwyn rydych wedi’i gwneud i ni, defnyddiwn eich cofnod cwyn i ganfod gwybodaeth. Darllenwch fwy ynghylch sut yr ydym yn trin eich gwybodaeth pan fyddwch yn gwneud cwyn i ni.

 

4. Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth

Byddwn yn rhannu eich cais a’n hymateb dim ond pan fydd y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.  Er enghraifft, os ydych yn cwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth am y ffordd yr ydym wedi delio â’ch cais.

 

5. Pa mor hir yr ydym yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw’r wybodaeth dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom a bydd hynny’n dibynnu ar ba ddefnydd a wneir ohoni.

 

6. Eich hawliau

Mae gennych yr hawliau canlynol dros y wybodaeth sydd gennym amdanoch:

  • i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth
  • i ofyn i ni ddiweddaru, cwblhau neu gywiro eich gwybodaeth, os yw’n anghywir neu’n anghyflawn
  • yr hawl i wrthwynebu i’n defnydd o’ch gwybodaeth mewn amgylchiadau penodol, a
  • yr hawl i gyfyngu ar ein defnydd ohono mewn amgylchiadau penodol.

Gallwch gysylltu â ni i arfer eich hawliau neu i gwyno am sut y defnyddir eich gwybodaeth trwy e-bostio Cais.Gwybodaeth@ombwdsmon.cymru

Os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth, mae hawl gennych gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).