Dyddiad yr Adroddiad

04/16/2021

Achos yn Erbyn

Meddyg Teulu, neu cyn-Feddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202001850

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w gŵr, Mr B, gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (y Practis). Cwynodd nad oedd y meddyg teulu wedi cynnal unrhyw brofion priodol ar y diwrnod am ddiabetes pan oedd ei gŵr, Mr B, wedi mynd at y Practis â symptomau a hanes teuluol o ddiabetes. Ar ôl yr apwyntiad, am fod Mr B yn wael iawn, ffoniodd Mrs B Galw Iechyd Cymru ac, ar sail y cyngor a ddarparwyd, aeth â Mr B i’r Adran Achosion Brys, lle cafodd ei dderbyn, ei drin a chael diagnosis am ddiabetes. Cwynodd Mrs B hefyd am y ffordd yr oedd y Practis wedi delio â’i chwyn.

Cafodd yr Ombwdsmon y dylai’r meddyg teulu fod wedi cynnal profion yn ystod yr apwyntiad, ac y byddai’r rhain wedi dangos pa mor ddifrifol oedd cyflwr Mr B ac wedi dangos bod angen cael triniaeth ar unwaith. Felly cadarnhaodd y rhan hon o’r gŵyn. Cafodd yr Ombwdsmon fod y Practis eisoes wedi gwneud newidiadau priodol yn ei ganllawiau mewnol ac wedi cynllunio ar gyfer hyfforddiant yn y dyfodol i sicrhau na fyddai mater tebyg yn codi yn y dyfodol. Er cael bod yr ymatebion hyn i’r digwyddiad yn drwyadl a phriodol, cafodd nad oeddent wedi’u cyfleu’n llawn i Mr a Mrs B yn ymateb y Practis i’r gŵyn, a oedd yn anfoddhaol o ran ei gynnwys. Felly cadarnhaodd y rhan hon o’r gŵyn hefyd.

Cytunodd y Practis i ymddiheuro o fewn 1 mis i Mr a Mrs B am y methiannau a nodwyd ac i ddarparu copi iddynt o’r protocol Diabetes newydd a thaliad o £250 am yr anghyfiawnder a achoswyd. Cytunodd hefyd i rannu adroddiad yr Ombwdsmon â staff perthnasol er mwyn hwyluso dysgu.