Dyddiad yr Adroddiad

01/16/2024

Achos yn Erbyn

Brwdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307103

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar fam. Ar ôl derbyn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, roedd Mrs B yn dal i fod yn anfodlon, gan nad oedd pob mater yr oedd wedi’i godi wedi cael sylw.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i Mrs B am ei phryderon nad oedd staff nyrsio wedi ymateb i gloch alw ei mam yn yr ysbyty.

Ar gais yr Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i gŵyn Mrs B, gan roi sylw penodol i’r mater hwn, o fewn 20 diwrnod gwaith.