Dyddiad yr Adroddiad

04/12/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Merthyr Tudful

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202005732

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod gwaith atgyweirio i ddatrys gwahanol broblemau yn ei chartref wedi parhau er 2019 a heb gael eu cwblhau a, lle’r oedd atgyweiriadau wedi’u gwneud, nad oeddent yn ddigonol a bod y problemau wedi codi eto a’i bod yn teimlo mai atebion dros dro oeddent.

Wrth ystyried y gŵyn, roeddwn yn pryderu am yr oedi wrth ymateb a gweithredu ar ran y Gymdeithas, a bod Miss X a’i theulu wedi profi anhwylustod dros gyfnod hir oherwydd diffyg gweithredu gan y Gymdeithas.

Mae’r Gymdeithas wedi cytuno i wneud y canlynol i setlo’r gŵyn:

· Ymddiheuro i Miss X am yr oedi wrth roi sylw i’r materion a godwyd yn ei chŵyn

· Darparu esboniad i Miss X am yr oedi

· Darparu ymateb pellach i gŵyn Miss X, a fyddai’n cynnwys sicrwydd am gwblhau’r gwaith ar yr ystafell ymolchi a’r materion eraill a restrwyd yn ei hymateb i Miss X dyddiedig 26 Ionawr 2021, o fewn 4 wythnos i ddyddiad y llythyr hwn, erbyn 4 Mai 2021