Rydym yn gallu cynnal dau fath o ymchwiliad ar ein liwt ein hunain:
Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut gallwn ddefnyddio ein pwerau estynedig i gynnal ymchwiliad ar ein liwt ein hunain o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am Ymchwiliadau ar ein Liwt ein Hunain estynedig ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’, o dan y tab ‘Amdanom ni’.
Mae ein meini prawf (ar gael ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain‘, o dan y tab ‘Amdanom ni’) ar gyfer ymestyn ymchwiliad yn dweud, os ydyn ni wedi cychwyn ymchwiliad i gŵyn yn barod, ac ein bod yn dymuno cychwyn ymchwiliad ar ein liwt ein hunain i faterion sydd â chysylltiad sylweddol â’r mater sydd eisoes yn cael ei ymchwilio, byddwn yn dechrau ymchwiliad estynedig ar ein liwt ein hunain.
Gellir cynnal ymchwiliad estynedig os oes gennym amheuaeth resymol bod cwyn am:
Gyda chysylltiad agos â:
A:
Dyma rai enghreifftiau o faterion a allai fod yn destun ymchwiliad estynedig:
Mae ymchwiliadau i faterion o’r fath yn debygol o fod o ‘fudd i’r cyhoedd’ os ydyn nhw:
Efallai y byddwn eisiau ymestyn neu fynd ag ymchwiliad byw i gyfeiriad cysylltiedig arall gan archwilio cofnodion, cyngor proffesiynol a thystiolaeth arall sydd yn nodi pryderon y tu hwnt i’r rheini yn y gŵyn a dderbyniwyd, sy’n bodloni’r meini prawf yn ôl pob tebyg.
Os byddwn o’r farn bod angen ymchwiliad estynedig ar ein liwt ein hunain mewn perthynas â’ch cwyn, rhoddir gwybod i chi a’r corff cyhoeddus dan sylw, a bydd cyfle i chi wneud sylwadau a/neu gyflwyno tystiolaeth fel rhan o’r broses ymchwilio.
Pan fyddwn wedi cychwyn ymchwiliad estynedig, bydd yn cael ei reoli yn unol â’n prosesau trin cwynion presennol.
Os ydy’r ymchwiliad estynedig yn ymwneud â gwasanaethau iechyd a bod y rheoliadau ‘Gweithio i Wella’ yn berthnasol, rhoddir cyfle i’r achwynydd fwrw ymlaen â’r mater o dan y rheoliadau hyn fel dewis arall.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi am ein gwasanaeth, cysylltwch â ni:
0300 790 0203