Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch darparu addysg i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae gan yr Awdurdod Addysg Lleol, fel rhan o’r Cyngor, ddyletswydd cyffredinol i wneud trefniadau i addysgu plant sydd ag anghenion addysgol arbennig. Er y gellir fel arfer cwrdd ag anghenion plentyn yn yr ysgol heb i’r AALl ymyrryd, weithiau bydd yr Awdurdod yn paratoi datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Byddwn yn gallu ymchwilio i gwynion gan rieni bod yr AALl wedi methu darparu i gwrdd ag anghenion addysgol arbennig eu plentyn.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu:

  • edrych ar unrhyw oedi yn cyflawni asesiad o anghenion addysgol arbennig plentyn, neu yn darparu datganiad o’r anghenion hynny;
  • edrych i weld a wnaeth yr AALl ddilyn y rheolau o ran asesu anghenion a, lle bo angen, wrth ddarparu datganiad;
  • edrych i weld a fu oedi neu a wnaeth yr AALl fethu sicrhau darpariaeth yn unol â’r datganiad.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • cyflawni ein hasesiad ein hunain o anghenion y plentyn;
  • gorfodi’r Awdurdod Addysg Lleol i ddarparu datganiad o anghenion addysgol arbennig os yw’r Awdurdod yn ystyried nad oes angen un;
  • dweud wrth yr AALl beth i’w roi yn y datganiad.

 

Materion i gadw mewn cof

Os yw’r AALl yn gwrthod trefnu i asesu anghenion addysgol arbennig eich plentyn, neu’n gwrthod darparu datganiad wedyn, gallwch apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys os nad ydych yn hapus â’r hyn y mae’r AALl wedi’i roi yn y datganiad. Felly, ni fyddwn yn edrych ar unrhyw ran o’ch cwyn sy’n ymwneud â’r materion hyn.

Os ydym yn cadarnhau (yn cytuno) gyda’ch cwyn, efallai y byddwn yn gwneud argymhellion i’r AALl ynghylch beth ddylai ei wneud. Gall hyn gynnwys argymell bod yr AALl yn gwneud taliad i chi fel y gallwch dalu’n breifat am gymorth ychwanegol i’ch plentyn.

 

Gwybodaeth bellach

Mae’r Cod Ymarfer ar Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru, a gwybodaeth ddefnyddiol arall, ar gael o dan yr adran addysg ar wefan Llywodraeth y Cynulliad yn www.wales.gov.uk

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth hefyd ar gael oddi wrth Snap Cymru yn www.snapcymru.org, neu gan y Ganolfan Cyngor Addysgol (ACE) yn www.ace-ed.org.uk

Am fwy o wybodaeth am Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ewch i’w gwefan yn: www.sentw.gov.uk neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 01597 829800

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru