Cwynodd Miss A fod Cyngor Sir Ceredigion wedi methu ag ymateb i’w chais i’w phryderon gael eu hystyried fel cwyn ffurfiol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi anwybyddu cais Miss A i’r mater gael ei ystyried fel cwyn ffurfiol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig ymddiheuriad ac esboniad am yr esgeulustod a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.