Archwiliwyd a fethodd y Feddygfa â monitro lefelau lithiwm yng ngwaed Ms L ym mis Chwefror 2025, yn dilyn ei rhyddhau o’r ysbyty, a arweiniodd at ei derbyn i’r ysbyty eto oherwydd gwenwyno gan lithiwm.
Ystyriwyd hefyd y ffaith bod y Feddygfa wedi rhagnodi quetiapine i Ms L.
Canfu’r ymchwiliad mai cyfrifoldeb arbenigwyr yr ysbyty, ac nid y Feddygfa, oedd monitro lefelau lithiwm Ms L. Gan fod y driniaeth lithiwm wedi’i hatal a’i hailgychwyn tra roedd Ms L yn yr ysbyty, roedd hwn yn achos newydd o ragnodi, ac roedd yn parhau i fod o dan oruchwyliaeth arbenigwyr. Y cyfan oedd disgwyl i’r Feddygfa ei wneud oedd cynnal prawf gwaed a’i anfon i’w adolygu gan y tîm yn yr ysbyty oedd yn gofalu am Ms L.
Canfu’r ymchwiliad hefyd, er bod y Feddygfa wedi gwneud camgymeriad wrth ragnodi quetiapine i Ms L – camgymeriad y bu’n rhaid iddi ei gywiro hi ei hun – bod y Feddygfa wedi ymdrin â’r mater yn drylwyr yn ei hymateb i’r gŵyn. Nodwyd pedwar pwynt dysgu gyda’r nod o sicrhau na fyddai sefyllfaoedd tebyg i un Ms L yn digwydd eto.
Ni chadarnhawyd cwynion Ms L.