Cwynodd Miss A fod meddyg teulu yn y Practis wedi defnyddio ei ffôn symudol fel tortsh yn ystod archwiliad personol, ac nad oedd yn siŵr a dynnwyd unrhyw luniau. Roedd Miss A yn anhapus â’r ffordd yr oedd y Practis wedi delio â’i phryderon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod rhwng yr ymgynghoriad a gwirio ffôn symudol y meddyg teulu. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd i’r Practis gadarnhau bod y meddyg teulu wedi darparu’r un ddyfais ag a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad, neu nad oedd unrhyw ddelweddau wedi cael eu tynnu. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a gofid parhaus i Miss A.
Roedd y wybodaeth a roddodd y Practis i Miss T am yr oedi cyn siarad â’r meddyg teulu yn aneglur ac yn ymddangos yn anghyson. Cyfrannodd hyn at ansicrwydd a gofid Miss A ynghylch yr hyn a ddigwyddodd, a’i phryderon ynghylch a oedd y Practis wedi delio â’r digwyddiad yn briodol.
O ganlyniad i gyfraniad yr Ombwdsmon, rhoddodd y Practis wybod i’r Bwrdd Iechyd am y digwyddiad, a chynhaliodd ddadansoddiad o ddigwyddiad arwyddocaol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i gynnig ymddiheuriad i Miss A ac iawndal o £500 i gydnabod yr ansicrwydd a’r gofid parhaol, a’r ffordd yr ymdriniwyd â’i phryderon. Cytunodd hefyd i ddarparu ymateb i gŵyn Miss A yn manylu ar yr hyn a ddigwyddodd a’r camau a gymerwyd, ac i roi tystiolaeth i’r Ombwdsmon o’r camau gweithredu a gwblhawyd y cytunwyd arnynt yn y dadansoddiad o ddigwyddiad arwyddocaol, o fewn pythefnos.