Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gwynion Mrs A bod y Practis Meddyg Teulu:
a) wedi methu rhoi diagnosis a thrin gorbwysedd (pwysedd gwaed uchel) rhwng 2017 a 2021
b) methu â dehongli a gweithredu’n briodol ar ganlyniadau ECG (electrocardiogram – prawf sy’n cofnodi gweithgarwch trydanol eich calon, gan gynnwys y gyfradd a’r rhythm) ar 2 Mawrth 2017
c) ddim wedi cymryd camau priodol mewn ymateb i atgyfeiriad gan adran achosion brys ym mis Gorffennaf 2020 ynghylch adroddiad pelydr-X.
Canfu’r ymchwiliad fod y camau a gymerwyd gan y Practis mewn perthynas ag asesu a rheoli pwysedd gwaed Mr A yn dod o fewn yr ystod o ofal derbyniol. Felly, ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau. Gallai’r Practis Meddyg Teulu fod wedi trefnu i gymryd mwy o ddarlleniadau pwysedd gwaed yn ystod y cyfnod dan sylw, a gallai fod wedi gwneud mwy i gofnodi ac ystyried arwyddocâd darlleniadau uchel ochr yn ochr â darlleniadau a gofnodwyd gartref. Collwyd cyfle hefyd i ystyried yn llawn y gwahaniaethau rhwng darlleniadau pwysedd gwaed dwy fraich Mr A. Fodd bynnag, nid oedd y diffygion hyn mor ddifrifol fel y gellid ystyried bod y gofal yn is na’r safon. Yn hytrach, gwahoddwyd y Practis Meddyg Teulu i gynnal adolygiad pellach o ofal Mr A i fyfyrio ar y pwyntiau dysgu hyn.
Canfu’r ymchwiliad bod dehongli ECG Mr A fel canlyniad normal yn 2017, a pheidio â threfnu ymchwiliadau pellach neu atgyfeiriad arbenigol yn dod o fewn yr ystod o ofal derbyniol. Ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.
Canfu’r ymchwiliad fod methiant i drefnu adolygiad clinigol ar ôl cael atgyfeiriad gydag adroddiad pelydr-X wedi’i atodi gan yr adran achosion brys ym mis Gorffennaf 2020. Roedd y methiant gweinyddol hwn yn gyfystyr â chamweinyddu, er y nodwyd bod yr amseru, ychydig fisoedd ar ôl i COVID-19 ddechrau, yn ffactor lliniarol sylweddol. Cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.
Cytunodd y practis meddyg teulu ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro ymhellach i Mrs A ac i dalu £750 iddi mewn perthynas â’r anghyfiawnderau a nodwyd yn yr adroddiad.