Dyddiad yr Adroddiad

05/03/2026

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202507697

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod y Practis wedi anwybyddu ei chwynion a’i haddasiadau rhesymol ac nad oeddent wedi rhoi diagnosis covid hir iddi, er gwaethaf ei sicrhau.

Yn yr asesiad, canfuwyd nad oedd y Practis wedi glynu wrth addasiadau rhesymol Miss A, nad oedd Miss A wedi derbyn copi o ymateb y Practis i’r gŵyn ac nad oedd y Practis wedi cael cyfle i ymateb i’r gŵyn ynghylch diagnosis covid hir.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Cytunodd y Practis, o fewn 1 wythnos, i ail-anfon ei ymateb i’r gŵyn at Miss A, ac, o fewn 4 wythnos, i ddarparu ymateb i’r gŵyn mewn perthynas â’r diagnosis covid hir, ymddiheuro am beidio â glynu wrth addasiadau rhesymol Miss A, a rhoi nodyn ar gofnod meddygol Miss A yn manylu ar ei haddasiadau rhesymol.