Roedd cwyn Mrs A yn canolbwyntio ar a oedd ei rheolaeth ar gerrig bustl gan y Feddygfa wedi bod yn briodol, o ystyried canlyniadau ei phrofion gwaed yn 2021, 2023 a 2025. Derbyniwyd Mrs A i’r ysbyty lleol gyda phancreatitis a cherrig bustl trwy’r Adran Achosion Brys ar 26 Ionawr 2025.
Ni chanfu ymchwiliad yr Ombwdsmon unrhyw gysylltiad rhwng canlyniadau profion gwaed blaenorol Mrs A yn 2021 a 2023 a’i cherrig bustl dilynol. Canfu’r Ombwdsmon rai diffygion yn rheolaeth glinigol a dogfennaeth Mrs A mewn ymgynghoriad â’r Meddyg Teulu ym mis Mehefin 2023. Fodd bynnag, ar y cyfan, daethpwyd i’r casgliad, hyd yn oed pe bai’r Meddygon Teulu wedi dilyn y llwybr swyddogaeth afu perthnasol, na fyddai cerrig bustl Mrs A wedi cael eu nodi’n gynharach. Canfuwyd hefyd fod rheolaeth glinigol a gofal y Feddygfa mewn perthynas â chanlyniadau profion gwaed Mrs A ar 21 Ionawr 2025 yn rhesymol ac yn briodol.
Gwahoddwyd y Feddygfa i ystyried y pwyntiau dysgu mewn perthynas ag ymgynghoriad Mrs A ym mis Mehefin 2023.