Dyddiad yr Adroddiad

09/12/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202203360

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr D, gan Bractis Meddygon Teulu (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn yr ymchwiliad, ystyriwyd a oedd rhoi presgripsiwn o 2 mg o diazepam i Mr D ym mis Tachwedd 2021 yn briodol, yn enwedig o gofio bod y dos yn groes i’r cyngor yn Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain, bod y feddyginiaeth yn cynyddu’r perygl o dananadlu, ac yng ngoleuni’r driniaeth lobectomi roedd wedi’i chael yn ddiweddar (19 Hydref 2021), a oedd wedi arwain at system anadlu wan, ac at ddiffyg anadl. Ynddo, ystyriwyd hefyd a oedd y Practis wedi methu trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb lle y gellid bod wedi cynnal archwiliadau priodol ac a oedd y methiant hwn yn golygu bod y Practis wedi colli cyfle i sylwi ar yr arwyddion a’r symptomau o pneumonia a oedd wedi arwain at farwolaeth drist Mr D 2 ddiwrnod ar ôl yr ymgynghoriad dros y ffôn.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y gofal a’r driniaeth roedd y Practis wedi’u rhoi i Mr D ar 18 Tachwedd 2021 yn is na’r safon glinigol oedd yn dderbyniol, nid oedd wedi peri anghyfiawnder i Mr D o ran cyfrannu at natur ac amseriad ei farwolaeth. Ni chadarnhawyd cwyn Mrs B.