Cwynodd Mr A fod y Feddygfa wedi methu â darparu gofal priodol cyn iddo gael ei dynnu oddi ar ei rhestr cleifion.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Feddygfa wedi mynd i’r afael â phryderon Mr A ynghylch cael ei dynnu oddi ar y rhestr cleifion, nad oedd wedi darparu ymateb ysgrifenedig llawn ynghylch pryderon yr oedd wedi’u codi ynghylch ei ofal. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb gan y Feddygfa i ddarparu ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr i bryderon Mr A erbyn 20 Ebrill 2026.