Dyddiad yr Adroddiad

03/30/2023

Achos yn Erbyn

Bodreinallt

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202102847

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am y rheolaeth a’r gofal a gafodd yng nghyswllt clefyd yn ei harennau gan ei Meddyg Teulu (“y meddyg teulu”). Cwynodd hefyd na chafodd y metformin a roddwyd iddi ar gyfer ei diabetes Math 2 ei stopio’n gynt, ac roedd yn anfodlon â rheolaeth a gofal ei chod ileo-anal (lle mae’r coluddyn mawr a’r rectwm yn cael eu tynnu a’r rectwm newydd yn cael ei greu gan ddefnyddio rhan o’r coluddyn bach) gan y meddyg teulu a’r Practis Meddyg Teulu.

Canfu’r Ombwdsmon petai’r meddyg teulu wedi monitro’r profion gwaed yn fwy effeithiol, y gallai hyn fod wedi arwain at atgyfeiriad arennol gan feddyg teulu yn gynharach, ac felly collwyd y cyfle i wneud hynny. Roedd hefyd yn golygu bod cyfle wedi cael ei golli i gynnal adolygiad arennol posib o bwysedd gwaed Ms A. Wedi dweud hynny, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, ac ystyried y problemau iechyd a oedd gan Ms A yn barod, hyd yn oed petai wedi cael adolygiad arennol yn gynt, nad oedd yn bosib dweud a fyddai hyn wedi newid canlyniad Ms A o ran cynnydd y clefyd yn ei harennau. Ar ben hynny, gallai unrhyw effaith fod wedi bod yn gyfyngedig. Yr anghyfiawnder i Ms A oedd y byddai’n rhaid iddi fyw gyda’r ansicrwydd o beidio â gwybod a fyddai ei chanlyniad wedi bod yn wahanol. I’r graddau hyn yn unig, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o gŵyn Ms A ac argymhellodd y dylai’r Practis Meddygon Teulu ymddiheuro eto am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Ms A a oedd yn ymwneud â rhagnodi rheolaeth a gofal metformin neu ei gofal ileo-anal.