Dyddiad yr Adroddiad

06/03/2026

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202503525

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Bractis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cwynodd Mrs C nad oedd y Practis wedi cyflawni gwaith deintyddol i safon briodol pan gynhaliodd 2 lenwad ar 27 Chwefror a 2 echdynnu ar 20 Mawrth 2025. Cwynodd hefyd nad oedd y Practis wedi darparu ôl-ofal priodol yn dilyn yr echdynnu ar 20 Mawrth.

Canfu’r ymchwiliad fod y gwaith deintyddol a wnaed gan y Practis ar 27 Chwefror a 20 Mawrth wedi cyrraedd safon briodol, felly ni chadarnhawyd y pwynt hwn o gŵyn Mrs C. Fodd bynnag, canfuwyd, er bod ôl-ofal y Deintydd ei hun yn briodol yn dilyn yr echdynnu ar 20 Mawrth, fod diffyg yng nghyfathrebu mewnol y Practis. Felly, cadarnhawyd ail bwynt cwyn Mrs C.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis ymddiheuro i Mrs C am y diffyg hwn, ac atgoffa staff y dderbynfa o’i broses o ran hysbysu deintyddion am gysylltiadau gan gleifion. Cytunodd y Practis i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon.