Cwynodd Mr C nad oedd y Practis wedi mynd i’r afael â phryderon parhaus ynghylch ei driniaeth orthodontig. Roedd Mr C yn bryderus y gallai parhau â’r cynllun triniaeth presennol arwain at ddannedd camosodedig (malocclusion), gan greu risg o broblemau na ellir eu dadwneud a gwneud unrhyw driniaeth gywiro yn y dyfodol yn fwy cymhleth ac anodd.
Nododd yr Ombwdsmon bryder Mr C nad oedd ei bryderon wedi cael sylw digonol, er ei fod wedi codi’r materion hyn gyda’r Practis o’r blaen. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gellid datrys y gŵyn heb fod angen ymchwiliad ffurfiol.
Er mwyn hwyluso’r datrysiad hwn, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ddarparu ymateb ysgrifenedig, o fewn mis, i Mr C yn mynd i’r afael yn benodol â phryderon a materion a gafodd eu codi yn ei gŵyn i’r Ombwdsmon. Bwriad yr ymateb hwn oedd egluro safbwynt y Practis ynghylch y materion y cwynwyd amdanynt a mynd i’r afael â phryderon Mr C ynghylch rheolaeth barhaus ei driniaeth orthodontig.