Cwynodd Miss A ynghylch y driniaeth a gafodd ei meibion yn y Clinig Orthodontig.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Clinig wedi bod mewn gohebiaeth e-bost â Miss A, ei fod wedi methu â darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn drwy’r weithdrefn gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Clinig i ddarparu’r ymateb terfynol i’r gŵyn o fewn 3 wythnos, ynghyd ag ymddiheuriad ac i egluro pam na ymatebwyd i’r gŵyn yn unol â’r weithdrefn gwyno ffurfiol.