Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn dilyn ei chyflwyniad i Adran Achosion Brys Ysbyty Glangwili ar 11-12 Rhagfyr 2024. Yn benodol, gofynnodd a oedd gweithredoedd y Bwrdd Iechyd yn briodol yn glinigol o ran: y profion, yr ymchwiliadau a’r archwiliadau a gynhaliwyd; y diagnosisau a archwiliwyd; yr ystyriaeth a roddwyd i atgyfeirio ymlaen, gan gynnwys i’r Adran Trawma ac Orthopedig; a’r penderfyniad i’w rhyddhau ar 12 Rhagfyr.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i anfon y mater hwn ymlaen at ei Dîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i ystyried a oedd y methiannau hynny wedi achosi niwed i Ms A, ac i ba raddau, gan ddilyn proses sy’n unol â gofynion o dan reoliad 26 o Reoliadau Pryderon, Cwynion ac Iawndal y GIG (Cymru) 2011.
Ystyriodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol setlo’r gŵyn ar sail y weithred hon.