Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Gorffennaf 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb terfynol i’w gŵyn i Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb terfynol i’w gŵyn o fewn 6 wythnos, ymddiheuro am yr oedi ac egluro pam y digwyddodd hyn, a chynnig taliad iawndal ariannol o £100 i gydnabod yr oedi.