Cwynodd Mrs L am y gofal a ddarparwyd i’w diweddar frawd, Mr M. Ymchwiliwyd i bryderon ynghylch a gollwyd cyfleoedd i wneud diagnosis cynharach o emboledd ysgyfeiniol (pibell waed wedi’i blocio yn yr ysgyfaint) ac a oedd triniaeth Mr M ar ôl diagnosis o emboledd ysgyfeiniol yn briodol, yn amserol ac yn unol â chanllawiau perthnasol.
Canfu’r ymchwiliad, er gwaethaf cyflwyniad Mr M yn rhoi rheswm i ystyried diagnosis o emboledd ysgyfeiniol, na chynhaliwyd profion perthnasol. Roedd hyn yn fethiant ac yn anghyfiawnder i Mrs L a fydd yn cael ei gadael gydag ansicrwydd ynghylch beth allai’r canlyniad fod wedi bod pe bai’r profion hyn wedi’u cynnal. Cadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs L.
Unwaith y cafodd emboledd ysgyfeiniol ei ddiagnosio, roedd rheolaeth glinigol Mr M yn briodol ac ystyriwyd y driniaeth yn ofalus ac aseswyd risg yng ngoleuni ei gyflwr cymhleth. Ni chadarnhawyd y rhan hon o gŵyn Mrs L.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs L a chynnig iawndal ariannol o £750 iddi i gydnabod y gofid a achoswyd gan yr ansicrwydd y bydd yn ei adael ag ef. Cytunodd hefyd i sicrhau bod y clinigwyr a driniodd Mr M yn ystod ei dderbyniad cyntaf i’r Ysbyty yn gyfarwydd â symptomau emboledd ysgyfeiniol, yn enwedig mewn cleifion â chyflyrau ysgyfeiniol sy’n bodoli eisoes.