Dyddiad yr Adroddiad

12/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500786

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms F am y gofal a ddarparwyd i’w mab, Mr G, ym mis Chwefror 2024. Fe wnaethom ymchwilio i’w phryderon ynghylch yr asesiad clinigol a’r driniaeth o symptomau corfforol Mr G, ei reolaeth tra roedd yn yr ysbyty a safon y cadw cofnodion yn ystod y cyfnod perthnasol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal clinigol a ddarparwyd a’r diagnosisau gweithredol wrth i’r darlun clinigol ddatblygu, yn briodol ar y cyfan. Nid oedd dim i awgrymu y dylid bod wedi nodi Ffliw A Mr G yn gynt, ac fe gafodd ei drin yn brydlon pan gafodd ddiagnosis. Yn ogystal, er bod bylchau a hepgoriadau yn y cadw cofnodion, ni wnaeth y rhain beryglu gofal Mr G i’r graddau ei fod yn amhriodol. Ni chadarnhawyd yr elfennau hyn o gŵyn Mrs F.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod Mr G wedi’i reoli mewn cadair, yn hytrach na gwely. Roedd hyn yn unol â’r polisi perthnasol ar gyfer pan fydd yr ysbyty dan bwysau gyda chynhwysedd uchel, ond roedd methiant yn yr achos hwn i ystyried awtistiaeth ac anghenion unigol Mr G mewn perthynas â’r penderfyniad i reoli ei ofal mewn cadair yn hytrach na gwely. Cadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn.

Ers amser y digwyddiadau, roedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau cadarnhaol sylweddol i wella profiadau cleifion ag anghenion ychwanegol. Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i atgoffa staff o bwysigrwydd cynnal cofnodion cynhwysfawr – gan gynnwys ar adegau o bwysau mawr – er mwyn sicrhau parhad gofal.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr G, atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd ystyried anghenion ychwanegol cleifion yn llawn, gan gynnwys ar adegau o bwysau eithafol, a sicrhau bod cyfran briodol o staff perthnasol wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth cymeradwy.