Dyddiad yr Adroddiad

15/05/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500561

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mr C gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ganddo ym mis Rhagfyr 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i’w gŵyn i Mr C hyd yma a bod hyn wedi peri rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol iddo. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd gytuno i ddarparu i Mr C cyn pen wythnos ymateb terfynol i’w gŵyn a fydd hefyd yn cynnwys ymddiheuriad am yr oedi ac esboniad o’r rhesymau drosto. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y pethau hyn.