Dyddiad yr Adroddiad

10/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206868

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs T am y gofal a’r driniaeth a gafodd tra’r oedd ei beichiogrwydd yn dod i ben yn 2021. Cwynodd yn benodol na chafodd yr opsiwn o gael terfynu ei beichiogrwydd fel claf mewnol ar 13 Medi a’i bod wedi cael cyngor i gysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd Rhywiol. Cwynodd pan aeth i’r Adran Achosion Brys ar 26 Medi fod oedi amhriodol wedi bod cyn iddi gael triniaeth a bu’n rhaid iddi deithio i Ysbyty Glangwili (“yr Ysbyty”) mewn car gan nad oedd ambiwlans ar gael er ei bod yn rhy sâl i wneud hynny. Cwynodd hefyd ei bod, ar 29 Medi, wedi’i asesu’n anghywir o ran bod ei beichiogrwydd wedi’i derfynu’n gyflawn a bod oedi, tan 7 Hydref, cyn iddi gael sgan i gadarnhau bod y terfyniad wedi methu.
Canfu’r ymchwiliad ei bod yn rhesymol i Mrs T gael ei chynghori i gysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd Rhywiol i drafod ei hopsiynau terfynu. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod oedi cyn i Mrs T gael meddyginiaeth lleddfu poen pan aeth i’r Adran Achosion Brys. Dylid hefyd bod wedi gwrando ar ei sylwadau cyn iddi gael ei throsglwyddo’n annibynnol i’r Ysbyty, er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel iddi wneud hynny, a dylai fod wedi cael yr opsiwn o aros am ambiwlans i’w throsglwyddo. Cafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad fod Mrs T wedi cael ei hasesu a’i thrin yn briodol pan gafodd ei derbyn i’r Ysbyty rhwng 26 a 29 Medi. Fodd bynnag, dylai fod wedi cael ei rheoli’n lleol yn yr Ysbyty pan roddodd wybod am symptomau parhaus. Cafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau i’r graddau hynny.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon ac ymddiheuro i Mrs T am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal o £500 am yr anesmwythder a’r gofid a achoswyd gan y methiannau hyn. Cytunodd i rannu’r adroddiad gyda’r staff perthnasol ac atgoffa staff yn yr Adran Achosion Brys o bwysigrwydd asesu poen a gweinyddu meddyginiaeth lleddfu poen yn amserol. Cytunodd hefyd i ystyried datblygu canllawiau lleol ar gyfer trosglwyddo rhwng ysbytai’n annibynnol ac adolygu pa mor briodol yw llwybrau i gleifion sy’n terfynu eu beichiogrwydd a phroblemau beichiogrwydd cynnar.