Cwynodd Mr B ynghylch gofal a thriniaeth ei ddiweddar wraig, Mrs B, yn Ysbyty Frenhinol Morgannwg (“yr Ysbyty”). Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y modd y rheolwyd Mrs B yn glinigol ar 3 Gorffennaf 2025, yn dilyn ECG, yn briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod y modd y rheolwyd Mrs B yn glinigol ar 3 Gorffennaf 2025 yn briodol yn glinigol, ac yn bodloni’r safonau a nodir yn y canllawiau perthnasol ar gyfer rheoli cleifion sy’n cyflwyno â chyflwr y galon. Ni chadarnhawyd y gŵyn.