Dyddiad yr Adroddiad

09/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202600950

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod yn anfodlon â gofal a thriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg yn dilyn anaf i’w ffêr, a’r ffordd y gwnaeth ymdrin â’i chŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn yn brin o eglurder a thryloywder, ac nad oedd wedi ymateb i ohebiaeth ddilynol Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am yr oedi cyn ymateb i’w gohebiaeth o fewn 6 wythnos, adolygu ei ymateb i’r gŵyn a darparu ymateb clir yn mynd i’r afael â’r holl faterion a godwyd, ac i unioni unrhyw faterion a nodwyd.