Dyddiad yr Adroddiad

29/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202501942

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei thad, Mr A, gan y Bwrdd Iechyd. Holodd Mrs B a ddylid bod wedi rhagnodi meddyginiaeth gwrthgeulo (cyffuriau sy’n lleihau’r risg o ffurfio clotiau gwaed) i Mr A ar ôl iddo fynd i Adran Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 25 Hydref 2024. Gofynnodd hefyd a oedd diagnosis, triniaeth a threfniadau rhyddhau Mr A yn briodol pan ymwelodd â’r Ysbyty am yr ail dro ar 4 Tachwedd 2024.

Canfu’r ymchwiliad ei fod yn briodol na chafodd Mr A feddyginiaeth gwrthgeulo ar bresgripsiwn ar ôl iddo fod yn yr Ysbyty ar 25 Hydref 2024, felly ni chadarnhawyd y pwynt hwn.

Canfu ymhellach fod diagnosis, triniaeth a threfniadau rhyddhau Mr A ar 4 Tachwedd 2024 oll yn briodol; o ganlyniad, ni chadarnhawyd y pwyntiau hyn ychwaith.