Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202504873

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi’i ddarparu i’w fam-gu. Roedd yn anghytuno â pheth o’r wybodaeth yn ymateb y Bwrdd Iechyd a chwynodd nad oedd tystiolaeth ddigonol o ddysgu.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi rhoi sylw digonol i’r pryderon a fynegwyd gan Mr A. Nid oedd yr ymateb yn adlewyrchu’n llawn yr wybodaeth yng nghofnodion clinigol mam-gu Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr A o fewn 6 wythnos, gydag ymateb pellach i’w gŵyn, a diweddariad ar y cynllun gweithredu dysgu.