Dyddiad yr Adroddiad

07/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202508154

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms A am safon y gofal a ddarparwyd i’w thad, Mr B, mewn cysylltiad â’i lawdriniaeth i amnewid clun yn dilyn cwymp yn ei gartref.

Yn benodol, roedd hi’n pryderu bod fentanyl (lliniarydd poen o fath opioid) wedi cael ei ddefnyddio yn ystod llawdriniaeth clun Mr B, er gwybod bod Mr B yn sensitif i feddyginiaethau opioid. Dywedodd Ms A fod hyn wedi arwain at ddirywiad yng nghyflwr cyffredinol Mr B.

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd defnyddio fentanyl yn ystod y llawdriniaeth yn briodol yn achos Mr B. Ar ôl cael cyngor clinigol ynghylch y gŵyn, canfu’r Ombwdsmon fod fentanyl yn ddewis priodol ar gyfer llawdriniaeth clun Mr B. Y rheswm am hyn yw ei fod yn darparu rhyddhad effeithiol rhag poen, ond ei fod hefyd yn gweithredu’n gyflym, yn para am gyfnod byr, ac yn bosibl gwrthdroi ei effeithiau yn gyflym. Ni chadarnhawyd y gŵyn.