Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Yn benodol, ystyriwyd a oedd yr ymchwiliadau am grawniadau dro ar ôl tro yn y fron rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ebrill 2025 yn ddigonol ac yn amserol.
Canfu’r ymchwiliad fod yr ymchwiliadau clinigol a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer crawniadau dro ar ôl tro yn y fron yn ddigonol ac yn amserol ar y cyfan. Er nad oedd rhai agweddau ar y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd yn cyd-fynd â phrotocolau neu ganllawiau perthnasol, roedd yn annhebygol bod hyn wedi effeithio ar y gofal a’r driniaeth yr oedd Mrs B eu hangen yn y tymor hwy, na’r canlyniad. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.
Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i adolygu polisïau a phrotocolau perthnasol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r arferion gorau, ac i rannu’r rhain â chlinigwyr perthnasol. At hynny, gwahoddodd yr Ombwdsmon y Bwrdd Iechyd i atgoffa’r staff am y gofynion ar gyfer rhagnodi gwrthfiotigau a amlinellir yn ei brotocol heintiau yn y fron.