Cwynodd Mrs A am y driniaeth ddeintyddol a roddwyd i’w mab gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cynghori Mrs A i gwyno i’w swyddfa cyn cyhoeddi ymateb i’w chŵyn yn unol â’r weithdrefn ‘Gweithio i Wella’. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Mrs A ynghylch y broses gwyno a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am fethu â darparu ymateb i’w chŵyn cyn ei chyfeirio at swyddfa’r Ombwdsmon ac i gyhoeddi ymateb llawn a therfynol i’w chŵyn o fewn 6 wythnos.