Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu â mynd i’r afael â’i ac ymateb yn llawn i’w gŵyn, a gyflwynodd ym mis Awst 2025, ynghylch gwasanaethau cardiaidd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a rhoi esboniad i Mr A am yr oedi a chyhoeddi’r ymateb llawn i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, a’i gael.