Cwynodd Miss C am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wrth reoli ei cholled mewn beichiogrwydd cynnar.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Miss C yn cydymffurfio â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss C ac i roi cadarnhad iddi y bydd ymchwiliad llawn i’w chŵyn yn unol â’r Rheoliadau, o fewn 5 diwrnod.