Dyddiad yr Adroddiad

04/05/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202208283

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Mehefin 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn rhoi ymateb i Mrs S a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gweithredu yn unol â’r weithdrefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi gwneud i Mr S deimlo’n rhwystredig.

Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr S am yr oedi, rhoi ymateb ffurfiol iddi, a rhoi taliad o £300 o fewn dau fis am ei hamser a’i thrafferth.