Cwynodd Mr W a’i wraig, Mrs W, am y gofal a dderbyniodd Mr W gan y Bwrdd Iechyd yn Chwefror 2025. Yn benodol, ystyriodd yr ymchwiliad a gafodd dreial Mr W o fod heb gathetr (“TWOC” – pan fydd y cathetr yn cael ei dynnu i weld a yw’r claf yn gallu gwagu’r bledren yn llwyr), ac ail-osod ei gathetr wedyn, ei reoli’n briodol. Ystyriodd hefyd a gafodd gymhlethdodau a gododd yn ystod llawdriniaeth Mr W ar ôl hynny eu rheoli a’u cyfathrebu iddo’n briodol ac a gafodd haint ôl-lawdriniaeth Mr W ei adnabod a’i drin yn brydlon.
Casglodd yr ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â monitro Mr W yn briodol yn ystod y TWOC oherwydd bod lefel ormodol o wrin wedi cronni a oedd mae’n debyg wedi achosi niwed i bledren Mr W ac wedi arwain at fod angen llawdriniaeth wedyn i’w gywiro. Felly derbyniwyd yr agwedd hon ar gŵyn Mr W. Casglodd yr ymchwiliad, er bod y cymhlethdodau a gododd yn ystod llawdriniaeth Mr W ar 19 Chwefror wedi cael eu rheoli’n briodol, nad oedd trafodaethau ac eglurhad a roddwyd i Mr W ar ôl y llawdriniaeth wedi cael eu cofnodi’n briodol. Ar y sail yma, casglodd yr ymchwiliad nad oedd Mr W wedi cael cyfle llawn ac amserol i ofyn cwestiynau perthnasol ac ennill dealltwriaeth lawn o’r hyn a ddigwyddodd a pham. Yn y cyswllt hwn yn unig, derbyniwyd y rhan yma o gŵyn Mr W. Yn olaf, casglodd yr ymchwiliad, pan oedd arwyddion o haint ôl-lawdriniaeth posib, fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau priodol a phrydlon i drin Mr W ac felly ni dderbyniwyd y gŵyn hon.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mr W a Mrs W am y methiannau yn yr adroddiad hwn. Cytunodd hefyd i atgoffa’r holl staff sy’n darparu gofal a thriniaeth yn ystod triniaethau TWOC o’r disgwyliadau a phwysigrwydd darparu safonau gofal yn unol â’r protocol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i rannu’r adroddiad hwn gyda’r gwasanaethau perthnasol ac i atgoffa staff o bwysigrwydd cofnodi gofal clinigol a thrafodaethau â chleifion a’u teuluoedd yn glir, yn unol â’r canllawiau perthnasol a bod angen ymchwilio’n drylwyr a chymesur a phriodol i gwynion. Dywedodd y Bwrdd Iechyd y byddai’n cwblhau’r camau hyn o fewn mis i’r adroddiad terfynol.