Cwynodd Miss C am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs A, pan oedd yn glaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Yn benodol a ddylai therapi gwrthfiotig fod wedi cael ei ddarparu, a oedd ei rhyddhau o’r ysbyty yn briodol, ac a ddylai fod wedi cael ei chyfeirio at Ofal Lliniarol.
Casglodd yr ymchwiliad, oherwydd nad oedd gan Mrs A haint, nad oedd sail dros ddarparu cyffuriau gwrthfiotig. Casglodd hefyd fod Mrs A yn glinigol ffit i gael ei rhyddhau o’r ysbyty. Ni dderbyniwyd y rhannau hyn o gŵyn Miss C.
Roedd cyflwr Mrs A yn golygu y dylid bod wedi ystyried ei chyfeirio at Ofal Lliniarol. Roedd yr ansicrwydd o beidio â gwybod beth allai canlyniad y cyfeiriad fod wedi bod yn anghyfiawnder i Miss C. Derbyniwyd y rhan yma o gŵyn Miss C.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Miss C am fethu ag ystyried cyfeiriad at Ofal Lliniarol ac i sicrhau bod y clinigwyr wnaeth drin Mrs A yn gyfarwydd â’r meini prawf ar gyfer cyfeiriadau o’r fath a bod angen cofnodi’r penderfyniadau ar hyn.