Cwynodd Ms A ei bod yn anfodlon ag ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w chŵyn am ei gofal a’i thriniaeth ddeintyddol fel claf mewnol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymchwiliad y Bwrdd Iechyd wedi hepgor gwybodaeth berthnasol o gofnodion Ms A, ac felly roedd ei ymateb yn anghywir ac yn anghyflawn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ailystyried cwyn Ms A a darparu ymateb ysgrifenedig yn mynd i’r afael â’r holl faterion a nodwyd, gan gynnwys ymddiheuriad am unrhyw anghywirdebau a hepgoriadau yn ei ymchwiliad cyntaf, o fewn 8 wythnos.