Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar fam gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd Mr A yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod diffygion yn ei ymchwiliad i’w bryderon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, er ei fod yn darparu esboniadau manwl am y gofal a ddarparwyd, ddim wedi mynd i’r afael â phryderon a godwyd ynghylch apwyntiad wedi’i drefnu i fam Mr A gael gosod stent. Penderfynodd fod angen mynd i’r afael â hyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n ailystyried pryderon heb eu datrys Mr A a darparu ymateb ysgrifenedig o fewn 1 mis.