Dyddiad yr Adroddiad

19/05/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202508628

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C am y gofal a roddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’w mam, Mrs A. Disgrifiodd Mrs C gyfathrebu gwael a diffyg empathi gan staff yr ysbyty a dywedodd fod Mrs A wedi cael ei rhyddhau i gartref gofal, er gwaethaf dirywiad yn ei chyflwr.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod nad oedd cyfathrebu bob amser yn ddigon da. Roedd wedi ymddiheuro ac wedi cymryd camau i wella’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried opsiynau triniaeth a rhyddhau amgen yn ddigonol ac nad oedd dogfennaeth briodol o ran y penderfyniadau clinigol a wnaed. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi adborth i’r meddyg dan sylw ac ysgrifennu at Mrs C o fewn 1 mis, i gydnabod ac ymddiheuro am beidio â chyrraedd y safonau disgwyliedig o ran ystyried opsiynau triniaeth amgen, dogfennaeth glinigol a chyfathrebu. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ystyried ffyrdd y gallai ei Wasanaeth Gofal Lliniarol gefnogi’r gwaith o wella gwasanaethau ar y ward a ofalodd am Mrs A.