Dyddiad yr Adroddiad

11/05/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202502229

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Miss C ynghylch gofal a thriniaeth ei diweddar fam Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud diagnosis a chydnabod arwyddocâd tiwmor ysgyfaint Mrs A a gafodd ei ddarganfod ym mis Chwefror 2023, ac a oedd y gofal dilynol yn briodol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â chydnabod tiwmor ysgyfaint Mrs A, a bod y tyfiant malaen tybiedig a nodwyd ym mis Chwefror 2023 yn destun adolygiad clinigol priodol, ac ymchwiliadau. Canfu’r ymchwiliad y gallai fod wedi bod yn briodol cynllunio ar gyfer sgan dilynol/triniaeth ddiagnostig yn gynt. Fodd bynnag, dangosodd sgan CT nad oedd wedi’i gynllunio, a gynhaliwyd lai na 3 mis ar ôl y sgan CT cyntaf, nad oedd tyfiant malaen ysgyfaint Mrs A, yn ei hanfod, wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, ni fyddai sgan dilynol wedi’i gynllunio wedi arwain at unrhyw gamau gweithredu gwahanol, na diagnosis pe bai wedi cael ei gynnal yn gynt. Dyfarnodd yr Ombwdsmon nad oedd y gŵyn wedi’i chadarnhau.